Cartref

English

Croeso i wefan Geiriadur Prifysgol Cymru

Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg.
Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary.

Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, drwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y cynnydd aruthrol yn yr eirfa sy’n deillio o’r defnydd ehangach o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf.
Diffinnir yr eirfa hon yn Gymraeg, ond rhoddir cyfystyron Saesneg yn ogystal. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau.

Seilir y gwaith ar gasgliad o dros ddwy filiwn o slipiau ac arnynt ddyfyniadau o amrywiol destunau – casgliad a grynhowyd dros amser ac yr ychwanegir ato yn barhaus.


Erbyn hyn mae’r staff yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gasglu tystiolaeth ar ffurf ddigidol ac i olygu’r Geiriadur, gan ddiweddaru’r cynnwys yn rheolaidd.

Yn 2014 cyhoeddwyd fersiwn ar lein am ddim o’r Geiriadur: GPC Ar Lein, sy’n cynnwys holl ddeunydd yr argraffiad cyntaf a’r ail argraffiad, ynghyd â miloedd o eiriau newydd (ynghyd â rhai wedi’u diweddaru) a ychwanegwyd ato ers hynny.

Lansiwyd apiau ffôn ar gyfer ffonau Apple ac Android gyda nawdd Llywodraeth Cymru, sydd ar gael am ddim ac sy’n rhoi mynediad i holl gyfoeth y Geiriadur. Erbyn hyn mae’r ap hefyd ar gael ar dabledi Amazon Fire.

Mae’r Geiriadur yn brosiect ymchwil o fewn Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar safle’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn ôl i’r brig

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru          Cymeradwywyd gan Dictionary Portal