teithi12000teithi1
[?cf. Crn. C. teythy, tythy ‘priod le’, Gwydd. C. techt ‘meddiant’, neu H. Wydd. téchtae ‘(peth) priodol neu iawn (yn ôl y gyfraith)’; petrus yw dosbarthiad rhai o’r enghrau. isod]
e.ll. a hefyd (?geir.) fel eg.
a (Priod) nodweddion, ansoddau, priodoleddau, priodweddau, cyneddfau, natur; (priod d)dyletswyddau; mislif, misglwyf:
(proper) characteristics, qualities, properties, attributes, traits, nature; (proper) duties; menstruation, period.
12g. GMB 198, Caraf gaerwys vun venediw deithi, / Cas gennyf genthi ny gynhelwy.
12g. GLlF 74, Trydyd ar dec, try deithi, / Mar uthret gelet geilgi.
12g. GCBM i. 21, Du doeth y deythi teyrned, / Teyrnas wennwas wirioned.
13g. LlI 35, Pa uach bynnac a urthtygho ar y kynnogen, byt ryd o’r haul ac o’r uechny, canes gunaeth teythy mach.
id. 87, Teythy dauat yu blyth, ac oen y uot genthy.
13g. C 371-2, vn guirth oe teithi. un duu diuoli.
14g. LlB 64, a’e dyuot hitheu yn vorwyn attaw ef, or oed aeduet hi o vronneu a chedor a dyuot teithi oetran gwreic idi.
14g. WML 78, Teithi gr y gallu kyt agureic a bot yn gyuan y aelodeu oll. Teithi gure/ic y dyuod aryd etiued idi … Teithi treis y llef ach/orn achyn. Teithi keilac y canu ach/chcya [sic]. Teithi iar y dodi agori.
c. 1400 B iii. 10, A glyweist di a gant dewi. / gwr llwyt llydan y deithi. / goreu deuawt daeoni.
Diw. 16g. RWM i. 1122, Teithi = officium, dutie.
1632 D, Teithi … vid. an sit Qualitas & virtus inesse debita, quod ad aliquid suâ naturâ spectat.
1753 TR, Teithi, this word seems to signify the qualities that are required to be in some animals, and in some other things.
1803 P, Teithi, s. pl. aggr. … Faculties, qualities, characteristics; the peculiar traits, which distinguish one thing from others; the peculiar state of a being, or its perfections.
1813 WB 243, mewn perthynas i fenywod; ni wna yr un o gyffyriau y meddygon gyffelyb les, tu ag at rwyddhau a dwyn ymlaen eu teithi.
b Hawl(iau) (yn ôl y gyfraith), priod hawliad:
right(s) or entitlement(s) (in law), proper claim.
12g. GMB 152, Medressid mar ri mar rann gan deithi, / Arwystli arwystyl rad.
id. 176, Ardwyreaf hael o hil Rodri, / Ardwyad gorwlad, gerlin teithi.
id. 229, Canhysgaeth Douyt y gynnif Dauyt / Y gynnhal y deithi.
12g. GLlF 446, Ac nad vo yn y uro breint a theithi / Eithyr tri mc yn amlc o’e amlenwi.
13g. A 517, Teithi etmygant tri llwry nouant.
14g. T 7215, Ri rygeid yteithi.
14g. GDG³ 6, Gwaed Crist rhag yn drist, dros deithi,—a wna, / Fy neol a’m colli.
1604-7 TW (Pen 228), Teithi d.g. Iustitia.
c Gwerth (cyfreithiol), pris:
(legal) value, price.
13g. LlI 86, Dynawet … ot ard hyt echuyd o’r bore, byt ryd e nep a’e guertho; ac onyt ard en erbyn y kytwedauc, xxx. pob bluydyn yu e teythy.
1604-7 TW (Pen 228), Teithi d.g. pretium (hefyd D).
Dchr. 17g. J 10 155a, Teithi … iustitia pretium.
1688 TJ, Teithi, (pris,) gwerth: a price.
1722 Llst 189, Teithi. m. A price.
Amr.:
taith2 (ff. un. ansicr).
13g. A 116, teiling deith gwrthyad gawr.
14g. T 4322-3, ni lafarafi deith reith ryscatn.
Cfn.:
teithi gwraig: menstruation, period.
1632 D.
1803 P.
1813 WB 229.
Cf. LlB 64, dyuot teithi oedran gwreic idi; WML 78, Teithi gure/ic y dyuod aryd etiued idi.
teithi’r iaith: characteristics or idiosyncrasies of the (Welsh) language, ‘Sprachgefühl’.
teithi meddwl: mental attributes, ways of thinking.
teithi meddyliol = teithi meddwl.