30 Mehefin 2025
Ap GPC ar iOS 18.4 wedi’i drwsio
Mae gwall a rwystrodd yr ap rhag llwytho dan iOS 18.4 ymlaen wedi’i drwsio. Rydym yn dal i weithio ar agweddau eraill ohono. Mae’r fersiwn newydd ar gael o App Store Apple. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
17 Ebrill 2025 [diweddarwyd 4 & 12 Mehefin 2025]
Ap GPC ar iOS 18.4 yn methu
Rydym yn ymwybodol bod y diweddariad i iOS 18.4 ar ffonau Apple yn rhwystro ap GPC rhag rhedeg. Caiff diweddariad ei ryddhau cyn bo hir. Yn y cyfamser, mae modd defnyddio GPC yn Safari. Ymddiheuriadau.
13 Tachwedd 2024
Staff newydd y Geiriadur 2024
Braf oedd croesawu Catrin Huws i’r Geiriadur fel Golygydd Cynorthwyol ym mis Mawrth 2024.
Mae hi yn barod yn rhan graidd o’n tîm bach sy’n llunio’r Geiriadur, yn drafftio cofnodion newydd, ailolygu hen gofnodion, gwirio dyfyniadau a ychwanegir gan y golygyddion eraill, a phrawfddarllen y cofnodion newydd a diwygiedig cyn iddynt gael eu cyhoeddi.
Cyn ymuno â staff y Geiriadur, astudiodd raddau BA ac MA Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Pwnc ei hymchwil a’i thesis MA oedd y cyfeiriadau at nodweddion pensaernïol a bywyd a diwylliant materol ym marddoniaeth fawl a dychan Beirdd yr Uchelwyr. Cyhoeddwyd erthygl ganddi ar gyfeiriadau’r beirdd at ddodrefn ac addurn yn neuaddau a chartrefi noddwyr y beirdd yn y cylchgrawn Dwned.
Ar ôl graddio yn 2023, symudodd yn ôl i Aberystwyth lle bu’n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel swyddog gweinyddol tra oedd ar yr un pryd yn astudio cwrs ôl-radd mewn Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.
Mae arbenigedd Catrin yn gaffaeliad mawr i’n gwaith yn cofnodi datblygiad yr iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac rydym ni’n falch iawn ei bod hi’n rhan o’n tîm.