Hanes

English

Argraffiad cyntaf y Geiriadur

Sefydlwyd cynllun darllen yn 1921 fel prosiect ymchwil cyntaf Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol er mwyn creu’r casgliad o slipiau a fyddai’n rhoi sylfaen i’r Geiriadur.  Dechreuodd y gwaith golygu yn 1948 o dan olygyddiaeth R. J. Thomas, ac yn dilyn ei ymddeoliad yn 1975 penodwyd Gareth A. Bevan yn olygydd.  Dyrchafwyd Patrick J. Donovan yn gyd-olygydd yn 1998.

Cyhoeddwyd y Geiriadur mewn rhannau 64 tudalen gan Wasg Prifysgol Cymru o 1950 ymlaen, cyn eu cyfuno mewn 4 cyfrol:

cyfrol 1           a – ffysur                    1967               R. J. Thomas

cyfrol 2           g – llyys                       1987               Gareth A. Bevan

cyfrol 3           m – rhywyr                 1998               Gareth A. Bevan a Patrick J. Donovan

cyfrol 4           s – Zwinglïaidd          2002               Gareth A. Bevan a Patrick J. Donovan

Ar ôl 80 mlynedd o waith a thros hanner canrif o lunio erthyglau, ysgrifennwyd cofnod olaf argraffiad cyntaf y Geiriadur, ar y gair Zwinglïaidd, ym mis Rhagfyr 2001.

zwingli
Mae pedair cyfrol y Geiriadur yn cynnwys:

  • 7.3 miliwn o eiriau o destun
  • 105,586 o ddangoseiriau
  • 56,188 o groesgyfeiriadau
  • 84,596 o darddiadau
  • 348,657 o ddyfyniadau dyddiedig o’r flwyddyn 631 hyd 2000
  • 323,311 o ddiffiniadau Cymraeg
  • 290,001 o gyfystyron Saesneg

Ail argraffiad y Geiriadur

Gan fod y Gymraeg yn iaith fyw a’i geirfa’n ehangu’n gyson, mae angen diweddaru’r gwaith yn rheolaidd drwy ychwanegu geiriau ac ystyron newydd.  Cychwynnwyd ar y gwaith o ailolygu A-B yn 2002, a chyhoeddwyd deuddeg rhan hyd yma.  Yn dilyn ymddeoliadau Gareth A. Bevan a Patrick J. Donovan, ymgymerodd Andrew Hawke â’r olygyddiaeth yn 2008.

Mae’r ail olygiad hwn yn seiliedig nid yn unig ar gasgliad slipiau’r Geiriadur, ond ar amrediad helaeth o ffynonellau electronig megis gwefan Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425 (Prifysgol Caerdydd), JISC Historic Books yn cynnwys EEBO ac ECCO (Y Llyfrgell Brydeinig), Papurau Newydd Cymru Arlein a Chylchgronau Cymru Ar-lein (Llyfrgell Genedlaethol Cymru), a Porth Termau Cenedlaethol Cymru a Porth Corpora Cenedlaethol Cymru (Prifysgol Bangor).


GPC Ar Lein

Yn 2011, dechreuwyd cydweithio â chwmni iLEX Digital Publishing o Ddenmarc i drosi data’r Geiriadur i XML ar gyfer system olygu eiriadurol iLEX, ac i gynhyrchu geiriadur ar lein.

Ar ôl tair blynedd o waith, lansiwyd GPC Ar Lein gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, AC, yn y Senedd, ar 26 Mehefin 2014.

Yn y fersiwn ar lein rhad ac am ddim hwn mae modd chwilio yn hwylus am eiriau ac ymadroddion Cymraeg, a geiriau Saesneg. Mae’n adnodd amhrisiadwy i bawb sy’n ymddiddori yn y Gymraeg.


Apiau GPC

Datblygwyd apiau ar gyfer ffonau Apple ac Android, a thabledi Apple, Android, ac Amazon Fire. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar unrhyw adeg a lle bynnag y byddwch yn digwydd bod.
Yn wahanol i GPC Ar Lein ar PC neu liniadur, gallwch lawrlwytho’r holl ddata i’r ap ar gyfer yr adegau hynny pan na fydd cyswllt â’r Rhyngrwyd ar gael neu i arbed eich lwfans data symudol.

Datblygwyd yr apiau gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, a’u lansio yn 2016.

Ceir rhagor o wybodaeth yma.

 


Yn ôl i’r brig