English
Apiau Android, iOS, ac Amazon Fire
Ffordd gyfleus i ddefnyddio holl gyfoeth gwybodaeth ac ysgolheictod Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r apiau sydd ar gael ar gyfer ffonau Apple ac Android, a thabledi Apple, Android, ac Amazon Fire.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar unrhyw adeg a lle bynnag y byddwch yn digwydd bod.
Yn wahanol i GPC Ar Lein ar PC neu liniadur, gallwch lawrlwytho’r holl ddata i’r ap (drwy’r Gosodiadau) ar gyfer yr adegau hynny pan na fydd cyswllt â’r Rhyngrwyd ar gael neu i arbed eich lwfans data symudol.
Mae’n werth cofio lawrlwytho’r data o’r newydd bob rhyw chwe mis er mwyn gallu manteisio ar yr ychwanegiadau diweddaraf. Er mwyn gwneud hyn, rhaid dileu’r data (drwy’r Gosodiadau) ac yna lawrlwytho’r data eto.
Datblygwyd gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru.
Lawrlwytho
Gallwch lawrlwytho’r ap drwy glicio ar yr eicon priodol neu drwy sganio’r cod QR gyda’ch dyfais:
Disgrifiad byr
Mae ap GPC yn cynnwys holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur Cymraeg cynhwysfawr tebyg i’r Oxford English Dictionary.
Yn wahanol i GPC Ar Lein (http://gpc.cymru), mae modd lawrlwytho holl gynnwys y Geiriadur i’ch dyfais fel nad oes angen cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’w ddefnyddio. Diffinnir pob gair yn Gymraeg gyda chyfystyron Saesneg ac enghreifftiau o’i ddefnydd o bob cyfnod ynghyd â tharddiad (etymoleg) i bob gair. Rhoddir gwybodaeth ramadegol fel cenedl a ffurfiau lluosog enwau.
Nodweddion
Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r geiriadur Cymraeg mwyaf gyda
– 124,500 o ddangoseiriau
– 7,150 o amrywiadau
– 34,400 o gyfuniadau (ymadroddion)
– 475,000 o ddyfyniadau enghreifftiol gyda manylion am y ffynonellau
– dros 60,000 o groesgyfeiriadau
Mae modd chwilio drwy’r dangoseiriau, yr amrywiadau, a’r cyfuniadau am air neu ymadrodd.
Er mwyn hwyluso’r chwilio, mae’r ap yn anwybyddu acenion, rhifau, a’r sillgoll, gan restru’r holl ganlyniadau i chi gael dewis o’u plith.
Os yw’r ap yn methu dod o hyd i’r gair rydych wedi chwilio amdano, bydd yn cynnig rhestr o eiriau tebyg.
Mae’r ap yn chwilio am ffurfiau treigledig geiriau yn awtomatig er mwyn dod o hyd i fwy o ganlyniadau.
Gallwch ddefnyddio nodau arbennig (neu ‘wildcards’: ‘*’, ‘?’, ‘+’).
Gallwch chwilio drwy’r cyfystyron Saesneg gan ddefnyddio’r un nodau arbennig.
Does dim angen bod ar lein i ddefnyddio’r ap. Mae’n bosibl lawrlwytho’r holl ddata (tua 185MB) drwy gysylltiad WiFi er mwyn gallu defnyddio’r ap yn annibynnol o’r Rhyngrwyd. Os nad oes digon o le ar y ddyfais, mae’n bosibl lawrlwytho fersiwn llai o’r data (sy’n cymryd tua 132MB drwy hepgor y dyfyniadau enghreifftiol).
Mae’r ap yn cynnwys dwy gêm eiriau syml – anagramau a geiriau coll – gan ddefnyddio diffiniadau’r Geiriadur fel cliwiau.
Mae’n bosibl cyfyngu’r dewis o eiriau i’ch chwiliadau diweddar – yn arbennig o ddefnyddiol i ddysgwyr er mwyn ymarfer geirfa newydd.
Ceir adran ‘Cymorth’ i ateb cwestiynau cyffredin ac i roi rhagor o wybodaeth.
Datblygwyd gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru.
Cymorth
Am ragor o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin cliciwch yma neu ar y ddolen Cymorth gyda’r Ap yn y ddewislen.