English
Gwybodaeth i Staff a Myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae apiau Android ac Apple ar gael yn rhad ac am ddim sy’n rhoi mynediad llawn i Eiriadur Prifysgol Cymru (GPC), y geiriadur hanesyddol Cymraeg sy’n cyfateb i’r Oxford English Dictionary. Mae hwn yn waith enfawr o dros 4,000 o dudalennau a thros wyth miliwn o eiriau i gyd. Mae’n anhepgorol i bawb sy’n astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth gyfoethog, ond mae hefyd yn ddefnyddiol iawn mewn llawer o feysydd eraill. Ceir diffiniadau yn Gymraeg yn ogystal â chyfystyron Saesneg, a dyfyniadau yn dangos defnydd y gair dros y canrifoedd. Rhestrir cyfuniadau cyffredin sy’n cynnwys y gair, gan gynnwys nifer o dermau technegol. Mantais fawr y fersiwn electronig yw bod modd chwilio am air Saesneg yn y Geiriadur, peth sy’n amhosibl gyda’r cyfrolau printiedig. Mae’n bosibl chwilio am gyfuniadau a rhannau o eiriau drwy ddefnyddio nodau chwilio arbennig (‘wildcards’). Ceir cymorth gyda sillafiad geiriau: oni ddeuir o hyd i air, cynigir rhestr o eiriau tebyg. Hefyd dangosir holl ffurfiau treigledig gair yn y canlyniadau chwilio, felly bydd chwilio am ‘cefn’ hefyd yn dod o hyd i ‘ar gefn ei geffyl’.
Ystyrir GPC yn safon ar gyfer sillafu geiriau, ffurfiau lluosog, cenedl enwau, ac yn y blaen. Mae’r holl wybodaeth yn y Geiriadur yn seiliedig ar gorpws o enghreifftiau go iawn.
Er Mehefin 2014 mae GPC Ar Lein ar gael dros y We, ond nawr mae’n bosibl lawrlwytho holl ddata’r Geiriadur i’ch ffôn neu dabled (Apple neu Android) fel nad oes rhaid cael cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’w ddefnyddio. Mae modd dewis rhwng cronfa ddata lawn (tua 185MB) sy’n cynnwys popeth yn y cyfrolau printiedig a llawer o eiriau newydd ychwanegol, neu gronfa ddata sylfaenol (tua 135MB) sy’n hepgor y dyfyniadau er mwyn arbed lle. Os oes digon o le, argymhellir y fersiwn llawn.
Mae’r ap yn gyflym ac yn gyfleus. Mae tipyn o gymorth ar gael ynddo gan gynnwys cyngor ar sut i ddyfynnu o’r Geiriadur yn eich gwaith academaidd.
Gellir lawrlwytho’r ap o App Store Apple a Google Play:
Cymorth gyda’r ap:
Am ragor o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin cliciwch yma neu ar y ddolen Cymorth gyda’r Ap yn y ddewislen ar y dde.
I ddysgu rhagor:
Ceir rhagor o wybodaeth am Eiriadur Prifysgol Cymru ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Porth yn:
Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg, gol. Delyth Prys (2014), pennod IV: ‘Geiriadur Prifysgol Cymru: Ar Seiliau Cadarn? Geiriaduron Hanesyddol, Disgrifiadol, a Rhagnodol’ gan Andrew Hawke.
Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu, gol. Delyth Prys a Robat Trefor, pennod 3: ‘Geiriaduron, termiaduron ac adnoddau defnyddiol eraill’ gan Delyth Prys.
Ar gyfer geirfa sy’n benodol i faes astudiaeth arbennig, bydd Ap Geiriaduron Canolfan Bedwyr yn ddefnyddiol a hefyd Porth Termau Cenedlaethol Cymru.
Datblygwyd yr ap gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru.