English
Sut gallwch chi helpu a chyfrannu.
Mae gennym gynllun torfoli (‘crowdsourcing’) ar lein newydd, GPC+, i drawsgrifio slipiau’r Geiriadur (deunydd crai’r gwaith), er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch. Os hoffech helpu, cewch ragor o wybodaeth yma.
Rhowch wybod i ni –
- os gwyddoch am eiriau neu ymadroddion nad ydynt wedi eu cofnodi yn y Geiriadur,
- os gwyddoch am enghreifftiau cynharach na’r rhai a ddyfynnir,
- os hoffech ddarllen cyhoeddiadau a chodi enghreifftiau o eiriau,
- os sylwch ar gamgymeriad yn y Geiriadur,
drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost gpc@geiriadur.ac.uk.
Byddwn yn croesawu fersiynau electronig o gyhoeddiadau, testunau, ac yn y blaen, i’w cynnwys yn ein casgliad o destunau chwiliadwy.
Gallwch hefyd ymuno â Chyfeillion y Geiriadur er mwyn cadw mewn cysylltiad â’r Geiriadur a derbyn y newyddion diweddaraf.
Os hoffech wneud cyfraniad ariannol i waith y Geiriadur, cliciwch yma am ragor o wybodaeth.