cainc1954

cainc, caing 

[H. Wydd. géc ‘cangen’: < Clt. *kankū; gwelir yr un gwr. *kank- ‘cangen, brigyn, ebill’ yn y Gwydd. cécht ‘aradr’] 

eb.g. ll. cangau, ceing(i)au, ceinciau, ceincion, ceingion.

1.  a  Aelod neu fraich sy’n tyfu allan o foncyff pren neu o gangen arall, brigyn, osgl (carw); yn aml yn ffig. a thros. am fraich o fynydd-dir neu gangen o afon neu o fôr, isadran o uned neu o gymdeithas neu o rywogaeth, pwnc o ddysgeidiaeth, &c.:

branch, bough, antler; often in fig. and transf. sense.

13g. C 484, Afallen peren per y chageu.

13g. LlDW 9717-18, trauskeyg a kerho okallon epren.

1346 LlA 86, keingev caryat.

14g. WM 3810-11, y geing hon yma or mabynnogyon.

c. 1400 RB ii. 149, y karw dewc keing.

c. 1400 RC xxxiii. 188, yn dwyn un oe cheingkev.

c. 1400 GP 6, Teir keing yssyd o gerd dafawt.

1567 TN 153b, [c]einciae o’r palmwydd.

p. 1584 G. Robert: GC [369], Crinion yw ceingion ’r einoes.

1672 J. Langford: HDdD 1, y tair caingc fawr o ddled-swydd Dyn.

c. 1700 E. Lhuyd: Par i. 2, a chaing arall o’r Kesseilgwm.

1703 E. Wynne: BC 141, A pheth yw Teyrnas Mammon, ond cainc o’m llywodraeth fawr i?

Ar lafar yn y Gogledd fel eg. golyga hefyd ‘ddarn cnotiog mewn pren’.

b  Llinyn neu edau gyfrodedd (mewn rhaff):

strand or yarn (of a rope).

1588 Pr iv. 12, rhaff deircainc ni thorrir ar frys.

1794 W d.g. strand [a twist of a rope].

2.  Cân, cerdd, alaw, tôn:

song, lay, strain, tune.

14g. GDG 376, Ac yn cael canu’r gainc hon.

15g. DGG 59, Holl geinciau mesurau serch.

15g. LGC 121, 443.

1632 D, Caingc … Canticum organi musici.

1657 MLl ii. 93.

1693 Camb J (1859), 143, caingc ar dannau.

1703 E. Wynne: BC 79, [Rh]ygyngu cainc rhag Angeu.

3.  Ffit, pwl, plwc, chwiw (o salwch, &c.):

fit, attack, stroke (of illness, &c.).

15g. KAA 18, anvones duw keing o glavri ar Amic.

1594-6 LBS iv. 386, cainc o nych accw’n y cnawd.

1617 Minsheu, kainc or kryd d.g. a fit of an ague.

‘Cainc o annwyd’, ‘cainc o selni’, SE Fe’i clywir hefyd ym Mhenllyn, e.e. cainc o’r ffliw.

Amr.:

canc [adff. o’r ff. l. cangau].

1551 W. Salesbury: KLl lxxva.

1727 RE: CDd 176.

Cfn.:

Crdd. Cainc y Gwyddel: the Irishman’s Lay.

16-17g. B i. 146.

cainc o fôr (o ddŵr): inlet or arm of sea (or water), gulf.

16g. (LlEG) Mos 158 145b.

16-17g. CLlC v-vi. 55.

1632 D d.g. Æstuarium.

1661 E. Lewis: Drex 55.

1725 SR d.g. an arm of the sea.

Am corff y gainc, rhaff deircainc, gw. corff—corff y gainc, rhaff.

Gw. hefyd cangen, ceingen.