mabinogi1987

mabinogi, &c. 

[mabin(i)ogi, mabynogi (cf. y ff. mamynogi, mabynnogyon) < *mabin, mabyn (cf. mebin, mebyn, mabinaidd)+-(i)og+-i1; efallai i’w gysylltu’n wr. â’r e.p. Mabon < *Maponos, gw. THSC (1974-5) 243; tebyg mai gwall copïo yw’r ff. mabynnogyon, WM 3811, gw. PKM xlii] 

eg. ac yn ddiw. eb. ll. (diw.) mabinogion.

Mebyd, ieuenctid; digwyddiadau neu gampau ieuenctid, hanes mebyd (rhywun), stori, chwedl; (yn y ll.) yr enw a roddir ar gasgliad o chwedlau Cymraeg o’r Oesoedd Canol:

childhood, youth; events or feats of youth, story of (someone’s) youth, story, legend; (in pl.) the name given to a collection of medieval Welsh tales.

12-13g. MA² 217b9-10, Mamynogi [sic] draig drud yw ei gymmwyll / I gymmell y wendud [Llywarch ap Llywelyn i Lywelyn ap Iorwerth].

14g. WM 389-11, Ac y uelly y teruyna y geing hon yma or mabynnogyon.

id. 619-10, A llyna ual y teruyna y geing honn or mabinyogi (RM 43, mabinogi).

14g. WM 8117-19, Ac y uell y [sic] y teruyna y geing honn yma or mabinogy.

14g. RC xxxiii. 186, Llyma vabinogi Iessu Grist.

c. 1400 RM 1, llyma dechreu mabinogi.

15g. LGCD 69, Udo fyth yr ydwyf i / Am benáig mabinogi [marwnad Siôn, mab pum mlwydd y bardd].

1695 W. Camden: B 677, Bêdd Petrual a wnaed i Vronwen verch Llyr … Mabynogi.

1707 AB 262b, mabinogi … Hoc vocabulum quid sibi velit, hodiè non constat[.] Libellus autèm sic inscriptus fabulosas quasdam Historiolas tradit de Optimatibus aliquot Britannis antiquioribus. Quod vidimus exemplar in quatuor partes distributum est, quas totidem Mabinogii sui Ramos appellat author vel exscriptor.

18-19g. B xiv. 111, y Gyfarwyddyd fendigedig honn a mabinogi Iesu Grist a elwir Efengyl Nicodemws.

1803 P, mabinogi, s.m., pl. -ion.

Gw. hefyd mabinog.