pryder1996

pryder 

[Crn. C. preder, pryderow (ll.), Llyd. C. a Diw. preder] 

eg. ll. pryderau, pryderon.

a  (Achos) poen neu flinder meddwl, baich meddwl, gofid, anesmwythyd, ofn, hefyd yn ffig.:

(cause of) anxiety, concern, distress, disquiet, fear, also fig.

12g. MA² 189b46-7, Erwan teyrnedd teyrn udd—Prydain / Pryder Lloegr ai cythrudd [i Lywelyn Fawr].

12-13g. GLlLl 112, Pryder beirt neud ryuawr / Mynet ut, but bytinawr, / Mynawc llary, y mynwes llawr [marwnad Gruffudd ap Cynan].

13g. MA² 220b42-3, Bu oer ym aros y chwedlau / Na bum farw o fawr bryderau [marwnad Gruffudd ap Llywelyn gan Ddafydd Benfras].

13g. Études v. 99, Kywryssed brydeyn yssy bryder ym (Cynddelw).

13g. BD 90, yna diruavr oual a phryder oed ar Ortheyrn.

c. 1400 RB ii. 195, Ofyn agymerassant brenhined tramor … Ac wrth hynny rac gofeilon aphrydereu. Sef awnaei pawb o honunt atnewydu ykeyryd ar dinassoed.

15g. FfBO 38-9, pryder a oed arnaw yd ae ynghyfyrgoll o eu hachaws.

15g. GGl² 9, Bu ar glêr bryder a braw / Ban ddaliwyd, beunydd wylaw [am garchariad Mathau Goch].

1630 R. Llwyd: LlH 432, Os bydd deiliad wedi myned yn anghymeradwy gyd ai feistr tîr, y mae hynny yn achos o bryder iddo.

1632 D d.g. agonia, anxietas, metus.

18g. I. Brydydd Hir: Gw 73, Gwr du yw Coler mewn pryderau.

1770 W d.g. anxiety, care [concern, trouble, or anxiety of mind …].

1803 P, pryder, anxiety.

b  Gofal, carc, gofalaeth, gwarchodaeth, cadwraeth; gwyliadwriaeth:

care, solicitude, charge, protection, custody; vigilance, alertness.

13g. B x. 29, ac o henne allan tra diodevaud [Mair] alltuded y byt hvnn ym pryder yeuan y presswyllyvs.

14g. BT 196, gyllyngawd grigor bab … kadwgawn esgob bangor … oy esgobawl bryder.

14g. WML 39, Pryder etiued y lladedic auyd aryreeni ae gyt etiuedyon.

14g. RC xxxiii. 209, yr hvnn nyt oed amgen bryder arnaw namyn cadw y deueit.

c. 1400 R 116638-9, Canu dreic brydein abrydir. obryder berthualch yt berchir.

Diw. 16g. LBS iv. 411, mwyaf fydd pryder düw ai gaidwadaeth ynghylch y lle hwnn.

1681 R. Prichard: CC 278, Ni wyr nêb o’r awr na’r amser, / Byddwn bôb awr ar ein pryder.

1764 Dewi Nantbrân: CB iv-v, yr Eneidau prisfawr, a gymmynodd Iesu Ghrist ein Harglwydd i’ch Pryder chwi.

1776 I. Brydydd Hir: P i. 6, a thybied eu bod yn haeddu eich pryder a’ch gofal mwyaf.