SUT I DDEFNYDDIO GPC AR LEIN
Mae modd newid iaith y rhyngwyneb ('interface') drwy glicio ar y botwm ar y dde ar frig y tudalen. Nid yw hyn yn newid yr iaith y byddwch yn ei chwilio yn y Geiriadur.
Mae'r botymau rheoli ar frig y tudalen, ac islaw, y canlyniadau chwilio ar y chwith, a'r cofnod cyntaf o'r canlyniadau ar y dde. Gellir clicio ar unrhyw un o'r canlyniadau ar y chwith er mwyn ei ddangos ar y dde.
Symudwch y llygoden dros elfennau o'r sgrin ac oedi ychydig i weld esboniadau ar y gwahanol fotymau, y blwch chwilio, ac yn y blaen. Symudwch y llygoden dros fyrfoddau unrhyw le mewn cofnod i weld y gair llawn neu esboniad.
Dangosir y gair (a weithiau ffurfiau eraill arno) ar frig y cofnod. (Mae llinell fertigol lwyd rhwng 'n' ac 'g' a rhwng 'r' a 'h' yn dangos nad 'ng' a 'rh' sydd yma.) Yn ogystal nodir tarddiad neu forffoleg y gair (yn dangos sut mae wedi dod i'r iaith, neu o ba elfennau eraill mae wedi ei gyfansoddi), a'i ran ymadrodd, ynghyd â ffurfiau lluosog, ffurfiau bachigol, &c. Wedyn ceir un neu ragor o adrannau yn dangos gwahanol ystyron y gair yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel arfer dyfynnir nifer o enghreifftiau o'r gair o destunau o bob cyfnod wedi eu trefnu'n gronolegol.
Yn y dyfyniadau (yr enghreifftiau dyddiedig), gallwch symud y llygoden dros fyrfodd teitl y gwaith i weld y manylion llawn.
Mae modd cuddio'r dyfyniadau fesul bloc drwy glicio ar y botwm ar y dde,
a'u dangos eto drwy glicio ar y botwm .
Mae'r botymau CUDDIO a DANGOS yn cuddio neu ddangos yr holl ddyfyniadau yn y cofnod, sy'n ddefnyddiol i weld braslun o gofnod hir, neu restr o'r cyfuniadau neu ymadroddion.
Mae'r botwm YN ÔL yn mynd â chi'n ôl un cam. Gellir ei ddefnyddio sawl gwaith i fynd ymhellach yn ôl.
Dylai fod yn bosibl clicio ar unrhyw beth a nodir mewn glas ar ran isaf y sgrin (yn y canlyniadau ac yn y cofnod) i fynd i'r cofnod cyfatebol (neu le penodol ynddo). Nid yw pob un o'r rhain yn gweithio gan nad yw'r Geiriadur byth yn orffenedig, ac nid yw pob cofnod y cyfeirir ato wedi cael ei olygu eto. Mae llawer o gysylltiadau a ddilynir gan '(At.)', '(hefyd At.)', ac '(GPC3)' yn y categori hwn.
Gallwch chwilio am gofnod yn y Geiriadur drwy deipio'r gair yn y blwch ar y chwith a phwyso'r allwedd ENTER. Mae acenion, priflythrennau, atalnodau, a rhifau yn cael eu hanwybyddu. Bydd pob cofnod sy'n trafod y gair a deipiwyd yn ymddangos yn y canlyniadau ar ochr chwith y sgrin (e.e. bydd teipio man yn rhoi man1, man2, man3, man4, mân1, a mân2).
Wrth i chi deipio, bydd rhestr o eiriau neu gyfuniadau sy'n dechrau gyda'r llythrennau hyn yn ymddangos o dan y blwch. Gallwch glicio ar un o'r rhain, neu symud y cyrchwr ('cursor') i lawr i'w ddewis.
Gallwch roi * yn lle rhan o air: e.e. bydd cat* yn dod o hyd i gofnodion sy'n dechrau gyda cat (gan gynnwys cat, catacwm, cath, cathaidd a 116 o eiriau eraill).
Defnyddiwch ? i gymryd lle unrhyw un llythyren: e.e. bydd ?ath yn dod o hyd i bath, cath, math, ac yn y blaen. Mae'n bosibl cyfuno'r rhain: e.e. byddai ?e??i?d* yn dod o hyd i geiriadur (a 207 o eiriau eraill) - defnyddiol iawn i wneud croeseiriau!
Bydd y chwiliad yn dangos faint o weithiau mae term yn digwydd a bydd y canlyniadau yn ymddangos ar y chwith fesul ugain. Cliciwch ar unrhyw un o'r rhain.
Gall y canlyniadau gyfeirio at gofnodion, croesgyfeiriadau, neu gyfuniadau.
I weld yr ugain canlyniad nesaf cliciwch ar y saeth sy'n pwyntio i'r dde (a'r un ar y chwith i fynd yn ôl).
Gallwch chwilio am ymadrodd (neu 'gyfuniad') drwy ei deipio yn y blwch ar y chwith a phwyso'r allwedd ENTER, yn yr un modd ag wrth chwilio am air Cymraeg (gw. uchod).
Dylid nodi bod llawer o gofnodion wedi eu newid ryw ychydig, gan gynnwys ailddyddio rhai dyfyniadau, ac weithiau ceir dyfyniadau ychwanegol, ond nid yw'r dyddiad cyhoeddi gwreiddiol wedi'i newid. Ni newidir hwn nes bydd y cofnod wedi'i ailolygu'n drylwyr.
Ni roddir ystyriaeth i drefn y geiriau, felly bydd baw jac yn canfod jac y baw, jac codi baw a jac llwyd y baw.
Gellir symud i'r cofnod nesaf drwy glicio ar y botwm GAIR NESAF,
ac i'r gair blaenorol drwy glicio ar y botwm GAIR BLAENOROL.
Wrth symud y cyrchwr dros y dangosair yn y rhan las o'r sgrin, bydd llamlen ('drop-down') yn ymddangos yn rhestru'r geiriau cyfagos. Gellir clicio ar unrhyw un o'r rhain i weld y cofnod hwnnw.
Mae modd gadael y cyrchwr ar un o'r saethau i fynd yn bellach yn ôl neu ymlaen drwy'r Geiriadur.
Chwilio am air neu ymadrodd Saesneg
Geiriadur Cymraeg hanesyddol yw GPC, yn trafod geiriau o bob cyfnod yn hanes yr iaith, gyda diffiniadau a chyfystyron yn Gymraeg a Saesneg. Nid geiriadur Saesneg-Cymraeg mohono. Serch hynny, gallwch chwilio am air Saesneg i'ch atgoffa o'r gair Cymraeg, neu i weld yr holl enghreifftiau o'r gair yn y cyfystyron Saesneg. Gallwch, er enghraifft, chwilio am river, sy'n dod o hyd i'r cofnodion aber, afon, a nant.
Ni roddir ystyriaeth i drefn y geiriau, felly bydd bible dictionary yn canfod dictionary of the Bible hefyd.
Mae modd defnyddio'r symbolau ?, *, a + (= un neu ragor o lythrennau), fel wrth chwilio geiriau Cymraeg.
Cenedl, sillafiad, ffurfiau lluosog, etc.
Mae GPC yn ceisio dilyn orgraff safonol y Gymraeg wrth sillafu'r dangoseiriau a'r ffurfiau lluosog, yr amrywiadau, a'r cyfuniadau. Y gair sy'n dod gyntaf yw'r un mwyaf arferol heddiw. Mae hyn yn wir hefyd am y ffurfiau lluosog a restrir. Yn achos berfau, rhoddir y berfenw mwyaf safonol yn syth ar ôl y colon.
Yn achos enwau, y genedl a roddir gyntaf yw'r un fwyaf arferol yn yr iaith lenyddol, ond cofiwch fod cenedl geiriau yn gallu amrywio o ardal i ardal.
Mae sillafiad y dyfyniadau enghreifftiol yn dilyn y testun gwreiddiol. Dyfynnir testunau weithiau o olygiadau sydd wedi safoni'r orgraff: codir y rhain yn union fel y maent yn yr argraffiad.
Nodir dyddiad cyhoeddi gwreiddiol pob cofnod i'r dde o'r dangosair.
Ymddangosodd argraffiad cyntaf GPC rhwng 1950 a 2002. Mae'r rhan fwyaf o'r adran A-B wedi'i hailolygu'n drylwyr, a cheir cofnodion yr ail argraffiad hwn yma. O C ymlaen bydd y Golygyddion yn ychwanegu cofnodion newydd sbon ac yn ailolygu detholiad o'r hen gofnodion. Y bwriad yw ailolygu'r holl eiriadur yn drylwyr, ond mae honno'n dasg enfawr. Ychwanegir y gwaith diweddaraf yn rheolaidd i GPC Ar lein.
Ar gyfer defnyddwyr yr argraffiad cyntaf yn bennaf, mae modd gweld lluniau o dudalennau'r argraffiad hwnnw drwy glicio ar ARGRAFFIAD CYNTAF. Bydd hyn yn dangos llun o'r tudalen sy'n cyfateb i'r cofnod a ddangosir.
Mae modd llusgo'r llun drwy ddal botwm chwith y llygoden i lawr ar y llun a'i lusgo i safle arall. Gellir gwneud y llun yn fwy neu'n llai drwy ddefnyddio olwyn sgrolio'r llygoden (os oes un). Gellir defnyddio pad cyffwrdd ('touchpad') hefyd. Fel arfer gellir printio'r llun neu'i gadw ar ddisg (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau arferol hawlfraint) drwy glicio arno gyda botwm de'r llygoden a dewis y weithred briodol.
Mae'r botymau TUDALEN NESAF / TUDALEN BLAENOROL yn gadael i chi edrych ar y tudalennau cyfagos, gan y gall cofnod ymestyn dros sawl tudalen.
Mae'n bwysig cofio y gall y llun o'r tudalen fod hyd at 60 mlynedd yn hŷn na'r cofnod a ddangosir. Nodir dyddiad cyhoeddi tudalen yr argraffiad cyntaf ar waelod y bar teitl ar y dde.
Os ydych yn defnyddio ffôn neu dabled, gweler yr adran nesaf.
Mae'r GPC Ar lein yn gweithio ar ei orau ar gyfrifiaduron a gliniaduron Windows, Mac-OS, a Linux gyda'r porwyr Chrome, Firefox, Opera, a Safari. Mae fersiwn 11 o Internet Explorer hefyd yn iawn (ond dylech osgoi IE ar Windows XP).
Mae rhai cyfyngiadau yn achos Android ac iOS: gan nad oes llygoden fel arfer, nid oes modd cael help drwy ei symud dros rannau o'r sgrin. (Weithiau mae tapio eitemau yn gweithio.) Bydd rhaid defnyddio'ch bysedd i sgrolio'r sgrin. Mae rhai anawsterau wrth ddefnyddio'r lluniau o dudalennau'r argraffiad cyntaf: oni bai bod y rhan berthnasol yn weladwy ar y sgrin, bydd angen pwyso'n hir ar y sgrin a dewis yr opsiwn "agor mewn ffenestr arall" neu gopïo'r llun a'i agor ar wahân. Os ydych yn talu am lawrlwytho data ar eich ffôn, cofiwch fod y lluniau yn fawr a byddai'n well osgoi eu defnyddio heb gysylltiad WiFi.
Os bydd digon o alw, y bwriad yw cynhyrchu 'apiau' Android ac iOS a fydd yr un mor ddefnyddiol â'r fersiwn ar gyfer cyfrifiaduron.
Drwy glicio ar y botwm CARTREF bydd modd ymweld â gwefan newydd y Geiriadur, lle bydd modd dysgu rhagor am y Geiriadur, cyfrannu sylwadau a chynnig gwelliannau a geiriau newydd. Ceir manylion am ein cyhoeddiadau a sut i'w harchebu.
Er nad oes tâl am ddefnyddio GPC Ar lein, eiddo deallusol Prifysgol Cymru yw'r holl ddata. Rhoddir hawl i unigolion ddefnyddio'r adnodd ar gyfer eu gwaith ymchwil ac i ddyfynnu darnau o'r gwaith yn unol â'r deddfau hawlfraint sydd mewn grym ar hyn o bryd, ond rhaid cydnabod y ffynhonnell. Caniateir defnyddio'r adnodd mewn busnesau a sefydliadau, ond ni cheir ei atgynhyrchu at ddibenion masnachol heb ganiatâd.
D.S. Oherwydd y ffordd y cafodd y deunydd ei drosi, byddai'n well dyfynnu'r cofnodion o brig i llyys o'r argraffiad printiedig, sydd ar gael drwy glicio ar ARGRAFFIAD CYNTAF:
Gwell dyfynnu pob erthygl arall o GPC Ar Lein, yn ôl un o'r dulliau canlynol:
MLA: "pen1" GPC Ar lein. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2014. Y We. [dyddiad cyrchu yn y fformat 1 Rhagfyr 2014].
Chicago: "pen1". GPC Ar lein. 2014. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2014. http://www.geiriadur.ac.uk (cyrchwyd [dyddiad cyrchu yn y fformat 1 Rhagfyr 2014]).
Harvard:: GPC Ar lein. 2014. "pen1" [Ar lein]. Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Ar gael yn: http://www.geiriadur.ac.uk [Cyrchwyd: [dyddiad cyrchu yn y fformat 1 Rhagfyr 2014]]
Os oes cwestiwn gennych o hyd, croeso i chi anfon neges ebost at: geiriadur@cymru.ac.uk
Troswyd y data i XML a datblygwyd y feddalwedd gan iLEX Digital Publishing, København, Denmarc.
Eiconau gan www.iconsdb.com.
Cyllidwyd gan Brifysgol Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.