English
09 Hydref 2015
Roedd dydd Iau, y 1af o Hydref, yn ddiwrnod o ddathlu yng nghartre’r Geiriadur gan fod y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, lle mae swyddfeydd y Geiriadur er 1993, yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg ar hugain.
Sefydlwyd y Ganolfan fel rhan o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1978. Fe’i trosglwyddwyd i Brifysgol Cymru a dechreuodd ar ei gwaith ar y 1af o Hydref 1985 mewn adeilad ar lan y môr yn Aberystwyth.
Y diweddar Athro R. Geraint Gruffydd oedd y cyfarwyddwr cyntaf a phrosiect cyntaf y tîm ymchwil oedd golygu holl farddoniaeth Beirdd y Tywysogion Cymreig yn y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg.
Ym 1993 symudodd y Ganolfan i adeilad newydd sbon ynghlwm wrth Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle’r oedd swyddfeydd y Geiriadur ar y pryd. Dyna pryd y cafodd y Geiriadur hefyd swyddfeydd newydd yn yr un adeilad.
Dros y blynyddoedd mae’r Ganolfan wedi rhedeg nifer o brosiectau arloesol, yn cynnwys Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg, gwaith Beirdd yr Uchelwyr, Diwylliant Gweledol Cymru, Cymru a’r Chwyldro Ffrengig i enwi dim ond rhai. Mae wedi cyhoeddi nifer fawr o gyfrolau ysgolheigaidd ac yn fwy diweddar, wedi lansio gwefannau, er enghraifft, gwefan Guto’r Glyn, yn ogystal ag GPC Ar Lein.
Ysgrifennwyd yr englynion canlynol gan gyn aelod o staff y Ganolfan, Eurig Salisbury, i ddathlu’r achlysur arbennig hwn:
I’r Ganolfan yn Ddeg ar Hugain
Rhwng y llyfrgell a’r gelli – is y dail,
Rhwng y stacs a Panty,
Mae man canol tafoli
Goludoedd ein hieithoedd ni.
Ewch ganwaith i gwch gwenyn – a chwi gewch
O gell bob diferyn,
Rhoi tast ar ddiliau’r testun
Mae’r haid rhwng y muriau hyn.
Mae’r waddol i ymroddi – y tu hwnt
I hon? Mae’r arloesi?
Mae’r adnodd? Mae’r buddsoddi?
Arall ni all a wna hi.
Fel derwen gyfled, iraidd – ara’ deg
Daw’r dail academaidd,
Y maes llên yw’r mes lluniaidd,
Ymchwil yw’r grym uwchlaw’r gwraidd.
Adail i grefft hawlio grant – ydyw tŷ
Rhidyllwyr diwylliant,
Yno’n fodlon fe hidlant
Yn dri deg oed draw hyd gant!
03 Medi 2015
400 o eiriau ‘NEWYDD’
Colofnydd, Coniac a Fflachlif
Dyma dri o’r bron i 400 o eiriau a ychwanegwyd at y Geiriadur Ar Lein yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Wyddech chi fod y gair ‘colofnydd’ yn golygu ‘Meudwy a arferai fyw ar ben colofn’ yn ogystal â’r ystyr cyfarwydd sef ‘Newyddiadurwr neu gyfrannwr sy’n ysgrifennu colofn i bapur newydd neu gylchgrawn’?
A beth am y gair ‘coniac’? Benthyciad o’r Saesneg neu’r Ffrangeg a ddefnyddiwyd gyntaf mewn erthygl yn Y Gwladgarwr yn 1876. Yn ôl yr awdur ‘mae llawer un yn dweyd y dyddiau yma fod cythraul yn y cognac’.
Gair a fathwyd bron i ganrif yn ddiweddarach ar ddelw’r Saesneg ‘flash flood’ yw ‘fflachlif’ – un o’r cannoedd o dermau technegol newydd a welwyd yn sgil twf addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
‘Camochri’, ‘cawodlyd’, ‘cegolch’ a ‘fflamenco’ – fedrwch chi gael hyd i enghreifftiau eraill o’r 400 gair newydd ar y Geiriadur Ar Lein?
14 Gorffennaf 2015
Cynhadledd Canoloeswyr Gwyddelig (Irish Conference of Medievalists)
Ddechrau mis Gorffennaf teithiodd Angharad Fychan i gynhadledd flynyddol yr ICM (Irish Conference of Medievalists) yng Ngholeg Prifysgol Dulyn, lle cyflwynodd bapur ar Eiriadur Prifysgol Cymru a’i werth i astudiaethau Gwyddelig canoloesol, fel rhan o banel ar brosiectau geiriadura Celtaidd.
Hefyd yn cymryd rhan roedd Roibeard Ó Maolalaigh o Brifysgol Glasgow yn trafod DASG (Digital Archive of Scottish Gaelic) a Faclair na Gàidhlig (The Dictionary of the Scottish Gaelic Language) a’u perthnasedd i astudio Gaeleg ganoloesol, a Sharon Arbuthnot o eDIL (electronic Dictionary of the Irish Language) yn trafod agweddau ar ailolygu’r geiriadur hwnnw.
Cadeiriwyd y panel gan Anthony Harvey, golygydd y DMLCS (Dictionary of Medieval Latin from Celtic Sources).
Cynigiodd y sesiwn arolwg gwerthfawr o’r gwahanol brosiectau ynghyd â chyfle i drafod dulliau o gydweithio.
12 Mai 2015
GPC yn dy boced
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o £40,500 i ni o’r Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg i helpu i ddatblygu apiau ar gyfer iOS ac Android.
Y syniad yw ehangu mynediad i’r geiriadur ar lein drwy ddarparu rhyngwyneb ar app modern sy’n teimlo’n reddfol ac sy’n hawdd ei ddefnyddio.
Bydd tri opsiwn o fewn yr apiau:
(1) lawrlwytho’r holl ddata fel y bydd modd defnyddio GPC heb gysylltiad WiFi/data symudol;
(2) lawrlwytho popeth ond y dyfyniadau i arbed tua hanner y lle; neu
(3) defnyddio’r data ar lein er mwyn arbed lle storio ar y ddyfais.
Bydd y rhyngwyneb yn llawer haws i’w ddefnyddio ar sgriniau llai, ac rydym yn ffyddiog y bydd yr apiau newydd o fudd mawr i lawer o bobl.
Bydd yr apiau ar gael yn rhad ac am ddim cyn diwedd y flwyddyn.
I weld rhagor o fanylion am hyn a’r naw prosiect arall a ariennir o dan y cynllun, gweler: Prosiectau Technoleg Cymraeg ledled Cymru
26 Mawrth 2015
Yr Athro Emeritus R Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA (1928-2015)
Tristwch o’r mwyaf yw gorfod cofnodi marwolaeth Yr Athro Geraint Gruffydd yn ei gartref ar 24 Mawrth. Ymunodd â staff Geiriadur Prifysgol Cymru fel Golygydd Cynorthwyol yn 1953 gan aros am ddwy flynedd cyn ei apwyntio’n Ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Dychwelodd i Aberystwyth fel Athro a phennaeth Adran y Gymraeg yn 1970. Penodwyd ef yn Llyfrgellydd Cenedlaethol yn 1980 ac yna’n Gyfarwyddwr cyntaf Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1985 lle arweiniodd brosiect arloesol i olygu a chyhoeddi holl waith Beirdd y Tywysogion. Ymddeolodd o’r Ganolfan yn 1993 ond parhaodd yn ymwelydd cyson ac yn gefnogwr brwd i holl weithgarwch y sefydliad.
Dilynodd Yr Athro Emeritus J E Caerwyn Williams fel Golygydd Ymgynghorol y Geiriadur yn 1999, a pharhaodd i ddarllen proflenni a chynnig sylwadau gwerthfawr arnynt tan yn ddiweddar. Prif feysydd ei ysgolheictod oedd llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a chyfnod y Dadeni, ond ymddiddorai ym mhob agwedd ar yr iaith a’i llenyddiaeth. Er iddo fod yn ysgolhaig o’r radd flaenaf, rhannai ei ddysg eang yn gwbl ddiymhongar.
Rydym yn cydymdeimlo’n fawr ag Luned ei wraig, ac â’u plant Siân, Rhun, a Pyrs, a’u teuluoedd hwythau.