English
26 Chwefror 2016
Newyddion apiau Android ac iOS
Newyddion gwych – Carreg filltir bwysig arall i’r Geiriadur + 400 o eiriau newydd
Mae ein hapiau Android ac iOS newydd nawr yn barod i’w lawrlwytho.
Gan gynnwys y cyfoeth a’r ehangder gwybodaeth y mae ein defnyddwyr wedi dod i’w ddisgwyl gan GPC, mae’r ap newydd yn caniatáu i chi fynd â’r geiriadur gyda chi i ble bynnag y byddwch yn mynd.
Mae lansiad yr ap yn cyd-fynd ag ychwanegu 400 o gofnodion newydd at y geiriadur sy’n gwneud yr achlysur yn ddathliad dwbl.
Gyda’r dewis ychwanegol o lawrlwytho cronfa ddata’r geiriadur i’ch ffôn neu dabled, gallwch fwynhau pŵer GPC hyd yn oed pan nad oes gennych gyswllt â’r rhyngrwyd.
Cliciwch yma i fynd at y dolenni lawrlwytho a rhagor o wybodaeth.
Gallwch ddefnyddio’r Cymorth Ap (bar Llywio ar y dde) i anfon unrhyw ymholiadau sydd gennych ynglŷn â’r ap ac i weld cymorth i ddefnyddwyr ac atebion i gwestiynau cyffredin.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y lansiad.
24 Chwefror 2016
Lansio ap GPC
Roedd yna gryn gyffro yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth ar ddydd Mercher, 24 Chwefror wrth i ap Geiriadur Prifysgol Cymru gael ei lansio.
Mae’r ap yn un o ddeg prosiect sydd wedi elwa o arian a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru i hybu defnydd o’r Gymraeg drwy dechnoleg a chyfryngau digidol.
Mae Geiriadur y Brifysgol wedi bod ar lein er mis Mehefin 2014 ond bellach mae ar gael fel ap ar gyfer ffonau symudol a thabledi. Mae’r ap yn caniatáu mynediad i holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru ac yn wahanol i GPC Ar Lein, mae modd lawrlwytho holl gynnwys y geiriadur i’ch dyfais fel nad oes angen cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’w ddefnyddio.
Fe gafodd yr ap dipyn o sylw ar y cyfryngau ac yn y wasg. Roedd sawl eitem yn ystod y dydd ar Radio Cymru a Radio Wales. Creodd BBC Cymru Fyw gwis yn seiliedig ar gynnwys y Geiriadur, gw. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35640098 a daeth Craig Duggan i’r ysgol i gyf-weld pobl yn y lansiad ar gyfer rhaglen ‘Post Prynhawn’ gan gynnwys rhai aelodau o’r 6ed sydd wedi dechrau defnyddio’r ap i helpu gyda’u gwaith ysgol.
Gallwch glywed un o’r cyfweliadau yma:
Dyma’r englyn a luniodd prifathro Ysgol Penweddig, y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, i’r ap:
Yn daclus ar dy declyn lawrlwytho
mae gwirio pob geiryn.
Ar y map mae Ap i hyn –
A chadwer iaith ochodyn.
Mae’r ap hefyd yn cynnwys dwy gêm eiriau syml – y naill i gael hyd i air cudd a’r llall i ddatrys anagram.
I gyd-fynd â’r lansiad hwn, ychwanegwyd dros 400 o eiriau newydd. Yn eu plith mae nifer o eiriau yn ymwneud â bwyd – geiriau megis eisin, eidionyn, grawnffrwyth, hambyrgyr, harico, lasania, llysfwytawr, a macarŵn ac mae’r geiriau hashish a goryfed hefyd wedi ennill eu lle! Mae geiriau cyfrifiadurol megis e-bost, e-bostio, gwefan a gwallneges hefyd i’w gweld am y tro cyntaf ynghyd â jog a jogio.
O fewn wythnos i’r lansiad, mae dros fil o bobl wedi lawrlwytho’r ap. I gael yr ap yn rhad ac am ddim cliciwch yma.
22 Chwefror 2016
Lansiad apiau Android ac iOS
Heddiw gallwn gyhoeddi’n swyddogol bod ap newydd GPC ar gyfer Android ac iOS ar gael, gan ddod â phŵer y geiriadur hanesyddol hwn i’ch dyfais symudol.
05 Chwefror 2016
Newyddion apiau Android ac iOS
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cynnal y profion terfynol ar ap newydd GPC gyda’r bwriad o lansio ar Google Play ac iTunes yn ddiweddarach y mis hwn.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth, yn cynnwys dolenni lawrlwytho, cyn y lansiad.
Gallwch ddefnyddio’r Cymorth Ap (bar Llywio ar y dde) i anfon unrhyw ymholiadau sydd gennych ynglŷn â’r ap ac i weld cymorth i ddefnyddwyr.
Cofiwch, gallwch ein dilyn ni ar Trydar a Facebook i gael diweddariadau ac adborth defnyddwyr.