English
7 Mehefin 2019
Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru 2019
Cynhelir ein Cyfarfod Blynyddol 2019 am 2 o’r gloch ar ddydd Sadwrn, 22ain o Fehefin, yn Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, drws nesaf i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Edrychwn ymlaen yn fawr i wrando ar anerchiad y Llywydd, y Prifardd Myrddin ap Dafydd, ac yr ydym yn ddiolchgar iddo am sicrhau amser yn nyddiadur prysur yr Archdderwydd i ymweld â Chyfeillion GPC, sydd yn ymfalchïo yn ei benodiad i’r swydd ac yn ei longyfarch yn fawr.
Ei gyd-siaradwyr eleni fydd D. Geraint Lewis, geiriadurwr a gramadegwr o fri sy’n enwog am ei frwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg, ac Ann Parry Owen sy’n arbenigwraig ar iaith a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, ac yn aelod o staff y Geiriadur.
Mae’n argoeli i fod yn brynhawn hynod o ddifyr, gyda Myrddin ap Dafydd yn cynnig ‘Asiffeta Panad Dda’, D. Geraint Lewis yn ein tywys i ‘Ogof Eiriadurol Arthur’, ac Ann Parry Owen yn trafod ‘Papur, Inc, a Phedair Wal’.
Darperir lluniaeth ysgafn i gloi’r Cyfarfod. Mae ’na groeso cynnes i bawb, yn Gyfeillion hen a newydd.
17 Mai 2019