Diolch am eich parodrwydd i’n helpu. Peidiwch â phoeni gormod am wneud camgymeriadau! Bydd staff y Geiriadur yn gwirio pob dyfyniad yn erbyn y ffynhonnell wreiddiol cyn ei gyhoeddi yn y Geiriadur er mwyn sicrhau ei gywirdeb. Serch hynny, bydd dilyn y cyfarwyddiadau hyn yn fodd i’ch helpu i greu adnodd o safon.
Creu cyfrif a mewngofnodi
Pan fyddwch chi’n dechrau trawsgrifio am y tro cyntaf mewn sesiwn, bydd y system yn gofyn i chi fewngofnodi neu gofrestru. Gallwch gofrestru yma a dychwelyd wedyn i ddarllen gweddill y cyfarwyddiadau. Mae angen eich enw a’ch cyfeiriad e-bost arnom er mwyn gallu cysylltu â chi (e.e. i ateb cwestiynau neu i esbonio rhywbeth). Ni fydd neb o’r tu allan i’r Geiriadur yn gweld eich manylion (gw. ein polisi preifatrwydd).
Bydd angen creu ‘enw sgrin’ hefyd. Dyma’r enw fydd yn ymddangos ar dudalen yr ystadegau os cytunwch i hynny. Gall fod yr un fath â’ch enw go iawn, neu unrhyw enw neu lysenw nad oes neb arall wedi’i ddefnyddio.
Pori drwy’r slipiau
Ffordd dda i ddechrau yw pori drwy’r slipiau y mae pobl eraill wedi’u trawsgrifio’n barod. Gallwch wneud hyn cyn cofrestru i weld sut mae’r slipiau’n edrych a sut mae pobl eraill wedi eu trafod.
Cliciwch ar PORI DRWY’R SLIPIAU ar frig y tudalen. Cewch ddewis llythyren drwy glicio ar unrhyw deilsen er mwyn dechrau pori. (Ar hyn o bryd, dim ond A, B, a rhan o C sydd ar gael. Bydd mwy o ddeunydd yn cael ei ychwanegu o bryd i’w gilydd.)
Bydd rhestr o slipiau yn ymddangos. Os bydd slip wedi’i drawsgrifio’n barod, bydd y dangosair yn cael ei restru ar y dde. Cliciwch ar y linc i weld y slip gyda’r trawsgrifiad oddi tano. Gallwch glicio ar y llun o’r slip i’w chwyddo. Cliciwch ar yr ‘X’ o dan y llun i gau’r llun mawr a pharhau i bori.
Gallwch fynd drwy’r slipiau drwy glicio ar < I’r slip Blaenorol neu I’r slip Nesaf > neu gallwch ddychwelyd i’r rhestr a dewis slip gwahanol.
Gan fod miloedd o slipiau o dan bob llythyren, mae’r rhestr wedi’i rhannu’n dudalennau o 20 slip yr un. I neidio i dudalen arall, cliciwch ar y sgwaryn cyfatebol ar waelod y tudalen, neu ar y sgwaryn ‘>’ i fynd i’r tudalen nesaf.
Os sylwch ar wall yn y trawsgrifiadau, mae croeso i chi e-bostio’r manylion at gpc@geiriadur.ac.uk, fel y gallwn ni gywiro’r cofnod perthnasol.
Trawsgrifio slipiau
Cliciwch ar TRAWSGRIFIO ar frig y tudalen. Cewch ddewis llythyren drwy glicio ar unrhyw deilsen er mwyn dechrau pori. (Ar hyn o bryd, dim ond A, B, a rhan o C sydd ar gael. Bydd mwy o ddeunydd yn cael ei ychwanegu o bryd i’w gilydd.)
Bydd slip yn cael ei ddewis ar hap o’r rheini sydd heb eu trawsgrifio fel man cychwyn i chi.
Gallwch glicio ar y llun o’r slip i’w chwyddo. Gall fod yn haws i’w weld fel hyn. Ewch yn ôl i’r tudalen drwy glicio ar yr ‘X’ ar waelod y llun (PEIDIWCH â defnyddio botwm ‘mynd yn ôl’ eich porwr – byddwch yn neidio allan o’r tudalen trawsgrifio!).
Fel rheol, mae angen teipio popeth sydd ar y slip, ond mae dau eithriad: (1) Os oes mwy nag un dyfyniad ar yr un slip, trawsgrifiwch y prif ddyfyniad (neu’r un cyntaf) yn unig a thiciwch yr opsiwn ‘Mwy nag un dyfyniad’; (2) Os oes llungopi o dudalen cyfan, bydd copïo’r gair dan sylw a digon o gyd-destun i’w ddeall yn gwneud y tro.
Bydd nifer o flychau o dan y llun o’r slip ar gyfer teipio gwybodaeth ynddynt:
-
Dangosair
Dangosair (headword yn Saesneg) yw’r gair sy’n ymddangos ar gornel chwith uchaf slip. Dyma’r gair (neu ffurf arno) fydd yn digwydd yn y dyfyniad islaw. Gall dangosair fod yn air neu’n gyfuniad o eiriau (e.e. pen1 – pen bore), ac yn achos berfau, defnyddir y patrwm codaf: codi neu af: mynd. Dilynwch beth sydd ar y slip. Os bydd y dangosair wedi ei groesi allan neu ei gywiro, rhowch y dangosair diweddaraf, os oes modd dweud.
Defnyddiwch lythrennau bach ac eithrio ar gyfer enwau priod (e.e. Cymro, Ffrancwr, Yr Aifft). Weithiau ceir uwchrif (rhif superscript) ar ôl y dangosair: nodwch y rhain gyda’r botwm ‘x2’. Teipiwch lythrennau acennog yn eich ffordd arferol neu cliciwch ar ‘Ω’ er mwyn dewis y llythyren briodol.
Os cewch anhawster, nodwch hynny yn y blwch Sylwadau (gw. isod).
-
Opsiynau
Mae tri grŵp o opsiynau yn dilyn y dangosair ond ni fydd y rhain yn berthnasol gan amlaf.
Weithiau ceir nodyn ar y slip yn lle dyfyniad. Nodwch hyn ym mlwch y diffiniad, ond ticiwch yr opsiwn priodol.
Os oes mwy nag un dyfyniad ar yr un slip, nodwch y prif ddyfyniad (neu’r un cyntaf) yn unig yn y blwch Dyfyniad a thiciwch yr opsiwn ‘Mwy nag un dyfyniad’.
Weithiau mae slip yn parhau ar ail slip, ac fel arfer nodir hyn â saeth. Gallwch gael cipolwg ar y slip nesaf drwy glicio’r linc Cipolwg o’r Slip Nesaf > uwchben y llun o’r slip.
Os yw’r wybodaeth yn parhau, ticiwch yr opsiwn.
Os oes mwy nag un dyfyniad ar yr un slip, nodwch y prif ddyfyniad (neu’r un cyntaf) yn unig yn y blwch Dyfyniad a thiciwch yr opsiwn ‘Mwy nag un dyfyniad’.
-
Dyfyniad
Dyma’r frawddeg, &c., sydd wedi’i dyfynnu ar y slip er mwyn dangos defnydd o’r dangosair.
Os bydd y dyfyniad wedi mynd o’r golwg, cliciwch ar ‘− Cuddio’r meysydd hyd at y dyfyniad’ o dan y llun o’r slip, a chewch fwy o le i weithio drwy guddio’r dangosair a’r opsiynau. (Os ydych am eu gweld eto, cliciwch ar ‘+ Dangos y meysydd hyd at y dyfyniad’ i’w hailddangos.)
Teipiwch y dyfyniad yn union fel y mae gan italeiddio’r enghraifft o’r dangosair (sydd wedi’i thanlinellu fel arfer ar y slip). Fel rheol, ni fydd angen defnyddio’r botymau teip trwm ‘B’ na thanlinellu ‘U’.
Teipiwch lythrennau acennog neu symbolau yn eich ffordd arferol neu cliciwch ar ‘Ω’ er mwyn dewis y llythyren briodol.
Weithiau bydd symbol tebyg i ‘δ’ ar y slipiau i gynrychioli ‘dd’, felly teipiwch ‘dd’ yn ei le. (Mewn testunau Cymraeg Canol, mae’n well ei gadw fel ‘δ’ drwy glicio ar ‘Ω’ a dewis ‘δ’, ond peidiwch â phoeni’n ormodol am hyn). Efallai y dewch ar draws llythyren debyg i ‘6’ agored sy’n sefyll am ‘u’ neu ‘w’ mewn testunau Cymraeg Canol. Gellir cael y symbol cywir drwy glicio ar ‘Ω’ a dewis ‘ỽ’ (yr ail symbol o’r diwedd). Os cewch drafferth, defnyddiwch y rhif ‘6’.
Os dewch ar draws symbolau nad oes modd eu cynrychioli (e.e. llythrennau IPA (yr wyddor seinegol), Groeg, Hebraeg, &c.), neu lythyren gyda dot oddi tani, nodwch fod problem yn y blwch Sylwadau (gw. isod).
Weithiau bydd nodiadau ychwanegol ar y slip. Teipiwch y rhain yn yr un blwch. Os ceir nodyn mewn cylch, rhowch ef rhwng cromfachau.
Os oes gormod o destun i’w drawsgrifio (e.e. llungopi o dudalen cyfan), bydd copïo’r gair dan sylw a digon o gyd-destun i’w ddeall yn gwneud y tro, gan roi nodyn yn y blwch Sylwadau (gw. isod).
-
Ffynhonnell
Dyma ffynhonnell y dyfyniad, sef y testun mae’n dod ohono. Gan amlaf, mae’n ymddangos ar waelod y slip. Gall gynnwys enw’r awdur, enw’r testun, rhif cyfrol, dyddiad, rhif tudalen, &c. Nodwch hyn yn union fel y mae, gan siecio’r rhifau’n ofalus i osgoi camgymeriadau. Weithiau bydd blwyddyn gyhoeddi yn rhan o’r ffynhonnell: codwch hyn gyda’r ffynhonnell.
-
Dyddiad
Os oes dyddiad, bydd yn ymddangos yng nghornel dde uchaf y slip neu fel rhan o’r ffynhonnell. Nodwch hwnnw yma yn union fel y mae (gall fod yn flwyddyn, e.e. ‘2018’, ar ffurf canrif, e.e. ‘16-17g.’, neu ystod o ddyddiadau fel ‘2017-18’).
Yn achos papurau newydd, cylchgronau, &c., nodwch y flwyddyn yma (heb y mis, &c.). Nid oes dyddiad o gwbl ar lawer o slipiau, felly peidiwch â nodi dim byd yn y blwch.
-
Bodlonrwydd
Os nad ydych yn gwbl fodlon ar eich trawsgrifiad, dewiswch un o’r opsiynau yma. Gallwch ychwanegu nodyn yn Sylwadau, os oes angen ymhelaethu.
-
Sylwadau
Os cewch anhawster, gallwch ymhelaethu arno yma, os oes angen. Hefyd, os oes gennych ryw wybodaeth bersonol ychwanegol, nodwch hynny yma yn hytrach nag yn y blwch Dyfyniad.
Os hoffech ofyn cwestiwn i un o’r Golygyddion, e-bostiwch y manylion at gpc@geiriadur.ac.uk, fel y gallwn ni ymateb yn gynt. Os ydych am gyfeirio at slip arbennig, nodwch gyfeirnod y slip (sydd i’w weld ar y chwith o dan y llun), e.e. ‘3a-000488’.
-
Rhagolwg
Rhaid clicio ar ‘Rhagolwg a safio’ er mwyn cymharu eich trawsgrifiad â’r slip, cyn arbed eich gwaith a symud ymlaen at y slip nesaf. Os sylwch ar unrhyw wall, cliciwch ar ‘Cau’r Rhagolwg’ i fynd yn ôl i’w gywiro. Rhaid clicio’r botwm ‘Rhagolwg a safio’ i gadw’ch trawsgrifiad – os dewiswch ‘Canslo a neidio i’r Slip Nesaf’, byddwch yn mynd yn syth at y slip nesaf gan golli’ch gwaith.
Os ydych yn fodlon ar y trawsgrifiad, cliciwch ‘Safio’ i arbed eich trawsgrifiad a chael symud ymlaen at y slip nesaf. Os bydd popeth wedi mynd yn iawn, dylech weld ‘Llwyddiant! Diolch yn fawr am eich cyfraniad’ uwchben y slip nesaf.
Ystadegau
Os hoffech weld faint o slipiau rydych wedi’u trawsgrifio, cliciwch ar YSTADEGAU ar frig y tudalen, a chewch weld amrywiaeth o ystadegau, gan gynnwys faint o waith y mae pobl eraill wedi’i wneud a faint o slipiau sydd wedi’u trawsgrifio’n gyfan gwbl. Os ydych wedi caniatáu i bawb weld eich enw sgrin (yn eich proffil wrth gofrestru), dylai’ch enw ymddangos mewn teip gwyrdd yn yr ystadegau, fel arall bydd yn ymddangos fel ‘Dienw’. (Gallwch newid yr opsiwn hwn yn Golygu fy mhroffil – ar frig y golofn ar y dde.)
Diolch yn fawr am eich cyfraniad i’r prosiect.
Cofrestru (os heb wneud eto)