Sesiwn hyfforddi GPC+

Ar ôl cyfarfod Cyfeillion y Geiriadur ar 23 Mehefin 2018 (yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth) bydd sesiwn ymarferol i wirfoddolwyr GPC+.

Bydd staff y Geiriadur ar gael i esbonio sut mae’r system yn gweithio ac i roi cymorth i bobl roi cynnig arni.

Bydd croeso i bawb – nid oes rhaid bod yn aelod o’r Cyfeillion.

Cyhoeddir rhagor o fanylion yn nes at yr amser.